Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Rhagfyr 2017
Amser:
14.50 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4356
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Dave Thomas Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Bu'r Aelodau'n ystyried ac yn trafod yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
1.2 Cytunodd yr Aelodau y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol gyda'u pryderon ac yn cynghori y gallent fod am gymryd tystiolaeth lafar ganddi.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG a Frances Duffy, Cyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol ac Arloesedd, Llywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a gododd o adroddiadau'r Pwyllgor blaenorol a'r Pwyllgor hwn ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.
4.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon rhagor o wybodaeth am y llinellau amser ar gyfer cyflwyno'r system genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol (WCCIS) a system arlwyo Cymru Gyfan.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ailedrych arni pan gyhoeddir adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru, y bwriedir gwneud hynny ym mis Ionawr 2018.